
Clare ydw i, a dechreuais Bound Ahead Dog Training i helpu perchnogion a'u hanifeiliaid anwes i ddeall ei gilydd yn well a meithrin partneriaeth fwy cytûn.
Rwy’n angerddol am sut y gall hyfforddiant sy'n brîd-benodol helpu i ddatblygu'r berthynas rhwng cŵn a'u perchnogion.
About me...
I grew up on our family farm in Norfolk. Seeing the dogs work and the enjoyment that connection brought to both dogs and human handlers, first inspired my love of dog training. My parents realised it was a pretty serious obsession when aged 6 I was building agility courses out of wooden fence posts and logs in the back garden, and spending hours running around it with our pet collie Jess!
I now live on the north west coast of Wales with my husband, cat Polly, and dogs Cadi (cocker spaniel) and Jac (Labrador). We love long hikes, and lots of dog sports! We train towards scent work, mantrailing, hoopers - and our first love, gundog training. Cadi and I are part of two beating teams on shoots in the winter season, and Jac is working towards picking up and working tests.
With over 10 years of dog training experience, I was mentored by Aleks from Synchro Dog Training before moving to north Wales where I decided to set up my own venture.
Aleks and I co-founded Scurry Dog. Scurry Dog takes all the fun of gundog training, and puts this into 5 Games which all pet dogs can excel at! Scurry Dog is growing a network of people and dogs worldwide who love gundog games and training. We are also training a network of other dog trainers in how to teach our 5 Games, through our Instructors Course.






Amdana fi...
Cefais fy magu ar ein fferm deuluol yn Norfolk. Wrth dyfu i fyny, datblygodd fy angerdd tuag at hyfforddi cŵn yn dilyn gweld y cŵn wrth eu gwaith a'r mwynhad a ddeilliodd o'r cysylltiad â'u perchnogion. Sylweddolodd fy rhieni ei fod yn obsesiwn go ddifrifol pan oeddwn yn 6 oed, yn adeiladu cyrsiau allan o byst ffens bren a boncyffion yn yr ardd gefn, ac yn treulio oriau yn rhedeg o'i gwmpas gyda'n ci anwes, Jess!
Rwyf bellach yn byw ar arfordir gogledd-orllewin Cymru gyda fy ngŵr, cath Polly, a’r cŵn Cadi (cocker spaniel) a Jac (Labrador). Rydyn ni'n mwynhau heicio a llawer o chwaraeon cŵn! Rydw'i yn hyfforddi arogleuo, 'mantrailing', hŵpers, ac ein cariad cyntaf, hyfforddi cŵn saethu. Mae Cadi a minnau yn rhan o ddau dîm curo dros y gaeaf, ac mae Jac yn gweithio tuag at godi a phrofion gwaith ehangach.
Gyda dros 10 mlynedd o brofiad ym maes hyfforddi cŵn, cefais fy mentora gan Aleks o Synchro Dog Training cyn symud i ogledd Cymru, lle y penderfynais sefydlu fy musnes fy hun.
Cydsefydlodd Aleks a minnau Scurry Dog. Mae Scurry Dog yn cymryd yr holl hwyl o hyfforddi cŵn saethu, trwy gyflwyno 5 gêm sy'n galluogi pob ci anwes i ragori. Mae Scurry Dog yn adeiladu rhwydwaith o bobl a chŵn ledled y byd sy'n mwynhau gemau cŵn saethu a hyfforddi. Rydym hefyd yn hyfforddi rhwydwaith o hyfforddwyr cŵn eraill ar sut i addysgu ein 5 gêm trwy ein cwrs hyfforddwyr.